* Posts by carwynf

1 publicly visible post • joined 5 Aug 2009

What's Welsh for Orange?

carwynf

Welsh version http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8180000/newsid_8183600/8183676.stm

Y ffôn symudol Cymraeg cynta

Fe fydd y ffonau ar gael o fis Medi ymlaen

Roedd yn ddiwrnod hanesyddol ar Faes yr Eisteddfod wrth i gwmni ffonau symudol gyhoeddi'r ffôn Cymraeg cyntaf.

Cwmnïau Samsung ac Orange sy wedi creu'r ffôn fydd ar gael mewn siopau Orange yn unig o fis Medi ymlaen.

O hyn ymlaen mae modd anfon negeseuon testun yn Gymraeg ac mae opsiynau'r fwydlen yn yr iaith.

Dywedodd Pennaeth Manwerthu Orange, Sian Doyle: "Mae'r cwmni yn falch eu bod wedi darparu'r gwasanaeth arloesol.

"Mae'r farchnad Gymraeg yn bwysig i ni ac mae'n rhan o'n menter ehangach i roi mwy o ddewis i siaradwyr Cymraeg.

"Rydyn ni'n buddsoddi yn helaeth yng Nghymru, gan agor siop ddiweddar yn Nhrefynwy.

"Ac rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i gwmni Samsung am gyflwyno'r gwasanaeth a chreu meddalwedd penodol - mae mwy na 44,000 o eiriau Cymraeg er mwyn i bobl anfon negeseuon."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Samsung y cafodd gwasanaeth Gwyddeleg ei lansio'r llynedd.

Mae modd gwnud galwadau ac anfon negeseuon yn Gymraeg

"Mae'n profi ein bod ar flaen y gad o ran cyflwyno newidiadau a gwasanaethau y mae'r cyhoedd eu heisiau."

Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, ei fod yn llongyfarch y ddau gwmni.

"Mae ffonau symudol yn rhan o'n bywyd pob dydd ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn ein hiaith ein hunain.

"Gan fod y Gymraeg yn perthyn i'r ganrif hon mae'r cwmnïau hyn ar y blaen."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod yn croesawu'r cam "pwysig" ond y "dylai'r hawl am wasanaeth Cymraeg fod ar gael i bawb nid yn unig defnyddwyr Orange yn unig".

"Er enghraifft, dwi'n ddefnyddiwr O2 ... a dyw heddi ddim wedi newid y sefyllfa.

"Does 'na ddim gwasanaeth Cymraeg ar gael."

Awgrymodd y dylid rhoi arian ar gyfer y sector i gyd

From Dywedodd onwards a collage from Cymdithas yr Iaith (a welsh language association that want to keep the welsh language alive and kicking)

They think this is a fantastic move by Orange and Samsung and this service not only should be given by Orange but by all the other Mobile networks and Manufactures in Wales. He says:

"For example, I am a O2 user... and today hasn't changed the situation.

"There isn't a Welsh service available" (By O2)

He suggested that the Welsh Assembly would fund money into the sector.